Bu'r meirw byw yn crwydo strydoedd Caernarfon heddiw (Dydd Gwener, Hydref
31ain) mewn protest yn erbyn cwmni Horizon Nuclear sydd eisiau adeiladu
adweithydd niwclear newydd yn y Wylfa.
Mae'r cwmni wrthi'n cynnal cyfres o gyfarfodydd fel rhan o ymgynghoriad
cymunedol am yr atomfa newydd, ac heddiw aeth criw o aelodau Cymdeithas yr
Iaith i'r cyfarfod yng Ngwesty’r Celtic Royal Caernarfon wedi gwisgo fel
Meirw Byw (Zombies) er mwyn amlygu peryglon ynni niwclear i ddyfodol
cymunedau'r gogledd orllewin, a'r peryglon i ddyfodol y Gymraeg fel iaith
hyfyw gymunedol.
Yn ddiweddar, fe aeth aelod o Gymdeithas yr Iaith ar ddirprwyaeth i Siapan,
er mwyn gweld beth yn union ydoedd effaith amgylcheddol a chymunedol y
ddamwain niwclear yno. Fel rhan o dystiolaeth i'r ymgynghoriad cymunedol,
fe rannodd Selwyn Jones ei brofiadau o ymweld â Fukushima, a'r gwersi i
Gymru.
Meddai Sel Jones, un a fu ar y ddirprwyaeth i Fukushima:
“Mae adroddiad asesiad iaith datblygiad Wylfan B gan y cwmni yn llawn o
dyllau, ac yn datgan yn y bôn, mai canran cymharol fechan o'r gweithlu fydd
yn bobl lleol. Nid yw prosiect WylfaB yn dod â gwir budd i’r economi
lleol. Mae’r byd wedi symud ymlaen o’r technoleg hen ffasiwn ac yn datblygu prosiectau
ynni ar lefel lleol sydd yn dod a gwir budd i gymunedau.
"Nid oes unrhyw sôn yn yr adroddiad hwnnw ynglŷn â beth fyddai effaith
damwain yn yr orsaf ar fywyd cymunedau Cymraeg eu hiaith. Yn syml, gan fod
y rhan fwyaf o gymunedau 70% yn y gogledd orllewin, byddai unrhyw ddamwain
yn golygu diwedd a'r fywyd y cymunedau Cymraeg hynny.
"Does dim ond rhaid i ni edrych ar yr hyn sydd yn digwydd yn Fukushima i
weld pa mor angheuol yw damwain niwclear ar fywydau cymunedau. Da ni'n
gwrthwynebu'r cynllun am resymau ieithyddol, economaidd a dioglewch, ac er
mwyn sicrhau na ddaw datganiad un o drigolion Fukushima - 'Yr ydym wedi
bradychu ein cyndadau a phlant ein plant' - yn berthnasol i Môn a Gwynedd."
Ychwanegodd Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd/Môn:
“Ar ddiwrnod Calan Gaeaf, rydym wedi gwisgo fel meirw byw, er mwyn amlygu
peryglon amlwg ynni niwclear. Mae dyletswydd arnom i ddangos bod ynni
niwclear yn hynod o ddrud, yn fudur ac yn peryglu bywyd cymunedol a dyfodol
y Gymraeg. Dyna'r neges rydym am ei roi i bobl ac i gwmni Horizon.”
Comments
Display the following comment