I ychwanegu eich enw neu eich sefydliad i’r datganiad hwn gyrrwch e-bost
Wales could see its biggest protests in a generation as 60 world leaders meet at the Celtic Manor in Newport for the NATO summit on 4th -5th September to plan their war on the world. Previous summits in Chicago and Strassbourg saw thousands protest war, austerity and global inequality.
From August 30th people will flock to South Wales for international actions including a weekend march and Counter Summit, week-long peace camp, and protests on the summit’s opening day.
NATO is the nuclear-armed military alliance binding Europe to US foreign policy, a foreign policy post-Iraq increasingly unpopular around the world. It is also the military alliance currently occupying Afghanistan.
War is the enemy of the poor. The world’s 85 richest people have as much as poorest 3.5 billion. The annual sum needed to end world hunger is $30 billion while the US Military’s budget is $530 billion per year.
Money into war is money out of our communities. In the UK, 500,000 people had to resort to food banks last year. While public services are slashed, one day of war in Afghanistan could fund 100,000 nurses.
This autumn the powerful will make their voices heard at the NATO summit. We must make sure that the voice of the millions around the world who need peace and justice is also heard.
_____________________________
Na i NATO. Na i Rhyfel. Na i Lymder.
Gall Cymru weld y protestiadau mwyaf mewn cenhedlaeth wrth i 60 arweinwyr y byd gyfarfod yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd ar gyfer uwchgynhadledd NATO ar 4-5 Medi i gynllunio eu rhyfel ar y byd. Gwelwyd miloedd o bobl yn protestio yn erbyn rhyfel, llymder ac anghydraddoldeb byd-eang mewn uwchgynhadleddau blaenorol yn Chicago a Strassbourg
O Awst 30 ymlaen bydd pobl yn heidio i Dde Cymru ar gyfer gweithredu rhyngwladol gan gynnwys gorymdaith penwythnos a Gwrth Uwchgynhadledd, gwersyll heddwch wythnos o hyd, a phrotestiadau ar ddiwrnod agoriadol yr uwchgynhadledd.
Mae NATO yn gynghrair milwrol gyda arfau niwclear sydd yn rhwymo Ewrop i bolisi tramor yr Unol Daleithiau, polisi tramor ôl-Irac sydd yn fwyfwy amhoblogaidd o amgylch y byd. Hwn hefyd yw’r gynghrair milwrol sydd ar hyn o bryd yn meddiannu Afghanistan.
Rhyfel ydi gelyn y tlawd. Mae gan 85 o bobl cyfoethocaf y byd gymaint â’r 3.5 biliwn tlotaf. Y swm blynyddol sydd ei angen i roi terfyn ar newyn byd ydi $30 biliwn tra fod cyllideb milwrol yr Unol Daleithiau yn $530 biliwn y flwyddyn.
Mae arian i fewn i ryfel yn arian allan o’n cymunedau. Yn y DU, roedd 500,000 o bobl wedi gorfod troi at fanciau bwyd y llynedd. Tra fod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri, gallai un diwrnod o’r rhyfel yn Afghanistan ariannu 100,000 o nyrsys.
Yr Hydref hwn, fe glywir llais y pwerus yn Uwchgynhadledd NATO. Rhaid i ni wneud yn siŵr bod llais y miliynau o gwmpas y byd sydd angen heddwch a chyfiawnder yn cael ei glywed hefyd .