Am ragor o wyboadaeth am y NATO 3 dilynnwch y ddolen yma: http://freethenato3.wordpress.com/nato-3-trial-solidarity/
Mae NATO yn aml wedi defnyddio'r term 'ymyrru'n ddyngarol' i gelu'r ffaith eu bod mewn gwirionedd yn ymladd dros fuddiannau strategol, economaidd a gwleidyddol y dosbarth elit o fewn aelod-wledydd NATO. Mae militariaeth a chyfalafiaeth yn rhan o'r un strwythur pŵer byd-eang. Mae beirniadaeth a chyfwynebiaeth o gyfalafiaeth yn agwedd anhepgor o ein safiad gwrth-militaraidd.
Ar hyn o bryd, mae NATO yn gynghrair arfog gyda dros 5000 arf niwclear. Fe'i sefydlwyd (i fod) i amddiffyn y ddwy ochr yn ystod y Rhyfel Oer, a dylai wedi cael eu diddymu pan ddaeth yr Undeb Sofietaidd i ben. Yn lle hynny, mae wedi ehangu a dod yn rym cynghreiriol ymosodol, yn cymryd rhan mewn rhyfeloedd gyda meddylfryd croesgadwr.
Am bron i ddeng mlynedd mae wedi bod yn cynnal y rhyfel yn Afghanistan, rhanbarth hanesyddol arwyddocaol rhwng y Gorllewin a'r Dwyrain, lle mae tua 100,000 o sifiliaid diniwed wedi marw a thair miliwn o bobl ddiniwed wedi dod yn ffoaduriaid.
Nid yw beirniadaeth o filitariaeth a chyfalafiaeth yn dod i ben gyda NATO: Y mae'r gwariant milwrol blynyddol fyd-eang ar hyn o bryd dros £ 1.072.600.000.000. Amcangyfrifir fod y gwariant hwn yn hafal i £150 y pen yn fyd eang. Cyllideb filwrol y DU yw'r pedwerydd mwyaf yn y byd. Yn y cyfnod hwn o gynni mae'n rhaid i ni fynnu i wybod pam bod gwariant milwrol mor uchel a datgelu creulondeb y rheini mewn safleoedd o bŵer yn rhyngwladol.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwynebu materion llawer pwysicach na llongau tanfor ac awyrennau ymladd. Mae pobl eisiau arian cael ei wario ar gyfleusterau lleol a hygyrchedd i isadeiledd iechyd a cymdeithasol. Hyd yn oed pan wnaiff y fyddin rhai torriadau, mae'r rhain bron wedi bod yn gyfan gwbl effeithio ar bobl - yn hytrach na phethau fel prynu arfau- drwy leihau personél, cyflogau is a phensiynau. Mae’r DU dal yn bwriadu i wario bron £160,000,000,000 ar arfau newydd erbyn 2022, gan gynnwys £35.8 biliwn ar longau tanfor niwclear sydd wedi eu dylunio i beidio cael eu defnyddio.
Er bod pobl o gwmpas y byd yn ei chael yn anodd darparu'r pethau fwyaf sylfaenol ar gyfer eu teuluoedd, mae llywodraethau yn dal i afradu adnoddau helaeth ar ymyriadau milwrol sydd yn wastraffus o adnoddau ac o fywydau, ac yn adlewyrchu paradeimau sydd wedi dyddio.
Mae’r UDA, o dan banner NATO, dal i weithio i osod system 'amddiffyniad taflegryn' yn Ewrop, ac yn profocio ras arfau gyda Rwsia. Nid ydym yn cytuno gyda'u cynlluniau ar ein cyfer. Mae pobl mewn cymunedau ledled Ynysoedd Prydain yn gwrthdystio yn erbyn canolfannau milwrol yn eu hardal. O Aberporth, Ceredigion i Menwith Hill yn Swydd Efrog a RAF Waddington yn Swydd Lincoln, ac o Faslane ger Glasgow i EDO yn Brighton, mae pobl leol yn gwrthwynebu militariaeth.
Mae gan Gasnewydd hanes radicalaidd. Yr oedd gwrthryfel y Siartwyr, sydd yn dathlu ei 175ain mlwyddiant eleni, y gwrthryfel arfog ar raddfa eang olaf yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Cafodd darn poblogaidd o gelf gyhoeddus a oedd yn dathlu’r gwrthryfel, ei chwalu yn gynnar (cyn iddo gael ei hamserlennu) fel rhan o ail ddatblygiad canol y dref, sydd yn cael ei harianu gan fenthyciad o £90miliwn a roddwyd i ddatblygwyr gan y cyngor wrth iddyn nhw dorri cyllideb gwasanaethau sylfaenol. Mae’r cais naïf i ailfywiogi’r dref drwy bwmpio arian cyhoeddus i gwmnïau preifat yn ymuno rhestr hir sydd yn cynnwys LG, Y Cwpan Ryder, a nawr cynhadledd NATO.
Gyda miloedd o bobl o bob rhan o dde Cymru a thu hwnt, rydym am wrthwynebu cynhadledd NATO a pharhau i weithredu yn erbyn militariaeth, creiriau Rhyfel-Oer, a chyllidebau amddiffyn chwyddedig.
Gobeithiwn y byddwch chi'n medru ymuno gyda’r digwyddiadau, mobileiddiadau a gweithgareddau i wrthwynebu NATO a’r arweinwyr rhyngwladol sydd yn dod i Gasnewydd. Mae llawer wedi ei gynllunio rhwng nawr a mis Medi. Rydym yn bwriadu bod yn rwydwaith agored a chynhwysol, yn gweithio gyda’n gilydd, gyda chymaint o fobl a phosib i ganfod strwythurau lleol a rhyngwladol nad ydynt yn hierarchaidd fel strwythurau amgen i’r systemau o ecsbloetio, tra bod yn ymwybodol o ymdreiddiad posib y wladwriaeth a corfforaethol i’n mudiad. Caiff ein gwefan ei ddiweddaru gyda newyddion a gwybodaeth, dyma ein e-bost; stopnatocymru@riseup.net
Stop NATO Cymru, rhan o'r Rhwydwaith Gweithredu Anarchaidd
wedi ei gefnogi gan
Anarchwyr De Cymru, Cymru Wales IWW, Bwyd nid Bomiau Caerdydd, Bwyd nid Bomiau Abertawe, Dim Ffiniau De Cymru, Bryste yn Erbyn y Fasnach Arfau
Dilynwch y ddolen hon i weld lluniau'r banneri: http://www.indymedia.org.uk/en/2014/01/514865.html
Comments
Display the following comment