Skip to content or view screen version

Climate Camp Cymru 13 - 16 August

Climate Camp Cymru | 14.07.2009 19:34 | Climate Chaos | Ecology | Energy Crisis

- FOR IMMEDIATE RELEASE -

Climate activists plan Wales’ first Climate Camp

Direct action camp to open near Merthyr, 13-16th August

Monday 13th July 2009: Climate activists have announced their plans to set up a family friendly ‘Climate Camp’ near Merthyr Tydfil, site of the controversial Ffos y Fran opencast coalmine next month.

The camp is part of a dynamic movement for action on the root causes of climate change. According to campers, the endless pursuit of economic growth on a finite planet is the driving force behind climate change.

Following Climate Camps near Drax, North Yorkshire (2006), Heathrow (2007), and Kingsnorth, Kent (2008), Climate Camp Cymru will draw international attention to UK government hypocrisy on climate change and ensure Wales plays its part in the growing global movement of camps for climate action. Experts agree that globally emissions must peak by 2015 or earlier if we are to avoid runaway climate chaos .

“Coal is nearly all carbon and should be left in the ground” said Angharad Jones, one of the campers. “The opencast coalmine at Ffos-y-Fran is a big black hole in the climate change policies of our governments! The mine supplies coal to Wales' biggest emitter of CO2: the coal fired power station at Aberthaw.”

Every aspect of the camp will demonstrate that solutions to climate change are available right now: from lights and computers powered by wind and sun, to water-less compost toilets and delicious low-carbon recipes cooked on efficient wood stoves. The camp will show how reversing the climate crisis can be mouth watering and fun!

More than your average camping trip, Climate Camp will be full of opportunities to learn. Workshops will cover everything from climate science and direct action techniques to DIY and traditional crafts. A kids’ area will keep younger campers entertained throughout the four days.

“Climate change is already killing three hundred thousand people every year ” Dr. Larch Maxey said, “yet our politicians remain intent on using the most polluting fuels like coal to chase economic growth at any cost. To stop climate chaos we must leave fossil fuels in the ground!”

For more information see  http://www.climatecampcymru.org

The IPCC Fourth Assessment Report  http://www.ipcc.ch/ proposed 2015 as the point at which emissions must peak, although this report is out of date, with the latest research indicating that emissions should peak sooner and be brought to zero by 2050. See, for example Public Interest Research Centre “Climate Safety” (2008)  http://climatesafety.org/

Kofi Annan's think-tank, the Global Humanitarian Forum, recently calculated that 300,000 people a year are already being killed by climate change, which is set to increase dramatically with increasing greenhouse gas emissions in the atmosphere. See “Human Impact Report: Climate Change – The Anatomy of a Silent Crisis” (2009) available at  http://www.ghf-geneva.org/OurWork/RaisingAwareness/HumanImpactReport/tabid/180/Default.aspx

- I'W RYDDHAU AR UNWAITH -

Gweithredwyr Hinsawdd yn cynllunio'r Gwersyll Hinsawdd cyntaf yng Nghymru

Gwersyll Gweithredu Uniongyrchol i agor ger Merthyr, Awst 13-16

Dydd Llun, Gorffennaf 13eg 2009: Mae ymgyrchwyr hinsawdd wedi cyhoeddi eu cynlluniau i sefydlu gwersyll deuluol o'r enw 'Climate Camp Cymru' ger y safle glo brig dadleuol Ffos-y-Fran ym Merthyr Tudful ym mis Awst.

Mae'r gwersyll yn ran o symudiad poblogaidd sy'n gweithredu i atal newid hinsawdd. Yn ôl y gwersyllwyr, yr hyn sydd wrth wraidd cynhesu'r byd yw'r ffaith bod ein llywodraethau ar drywydd twf economaidd diderfyn ar blaned sydd ag adnoddau naturiol cyfyngedig.

Yn dilyn Gwersylloedd Hinsawdd ger Drax, Gogledd Swydd Efrog (2006), Heathrow (2007), a Kingsnorth, Caint (2008), bydd Climate Camp Cymru yn tynnu sylw rhyngwladol at ragrith y llywodraeth ar newid hinsawdd ac yn sicrhau fod Cymru yn chwarae rhan bwysig yn y symudiad byd-eang sy'n gweithredu i atal cynhesu pellach. Mae arbenigwyr gwyddonol yn gytun fod yn rhaid i allyriadau carbon byd-eang gyrraedd eu brig erbyn 2015 neu yn gynt os ydym am atal newid hinsawdd rhag mynd allan o bob rheolaeth.

"Mae glo fwy neu lai yn garbon i gyd a dylem ei adael yn y ddaear," meddai Angharad Jones o Fachynlleth, sydd ymhlith y gwersyllwyr. "Mae'r gwaith glo brig yn Ffos-y-Fran yn cynrychioli twll mawr du ym mholisiau newid hinsawdd ein llywodraethau! Mae'r lofa anferth yma yn cyflenwi glo i bwerdy glo Aberddawan, sy'n allyrru mwy o CO2 dinistriol nag unrhyw ffynhonnell arall yng Nghymru"

Bydd pob agwedd o'r gwersyll yn dangos fod yr atebion i newid hinsawdd ar gael rwan hyn: o oleuadau a chyfrifiaduron sydd wedi eu pweru gan ynni'r gwynt a'r haul, i doiledau compost nad ydynt angen dŵr, i brydau bwyd carbon-isel wedi eu coginio ar boptai pren effeithlon. Bydd y gwersyll yn dangos fod modd cael hwyl wrth gydweithio i atal yr argyfwng hinsawdd!

Yn wahanol i'r gwyliau gwersylla arferol, bydd y Gwersyll Hinsawdd hefyd yn llawn cyfleoedd i ddysgu. Bydd gweithdau at ddant pawb, yn cynnwys sesiynau ar wyddoniaeth hinsawdd, technegau gweithredu uniongyrchol, DIY a chrefftau traddodiadol. Bydd ardal arbennig i blant yn difyrru gwersyllwyr ifanc trwy gydol y pedwar diwrnod.

"Mae newid hinsawdd eisoes yn lladd 300,000 o bobl bob blwyddyn," meddai Dr Larch Maxey o Abertawe, "ac eto mae'r llywodraeth yn mynnu defnyddio'r tanwyddau mwyaf brwnt, fel glo, yn enw twf economaidd. Er mwyn arbed newid hinsawdd di-droi'n-ôl rhaid i ni adael tanwyddau ffosil yn y ddaear!"

Am fwy o wybodaeth gweler:  http://www.climatecampcymru.org

Mae'r 'IPCC Fourth Assessment Report'  http://www.ipcc.ch/ yn argymell y dylai allyriadau carbon gyrraedd eu brig yn 2015, ond mae'r ymchwil diweddaraf yn dangos fod angen i allyriadau gyrraedd eu brig cyn hyn a dod lawr i sero erbyn 2050. Gweler, er enghraifft, yr adroddiad "Climate Safety" (2008) gan y Public Interest Research Centre  http://climatesafety.org/

Mae seiat ddoethion Kofi Annan, y Global Humanitarian Forum, wedi amcanrifo fod 300,000 o bobl eisoes yn cael eu lladd gan newid hinsawdd bob blwyddyn, a bod hyn yn mynd i gynyddu'n ddramatig wrth i'r lefelau nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer godi. See “Human Impact Report: Climate Change – The Anatomy of a Silent Crisis” (2009) ar gael ar  http://www.ghf-geneva.org/OurWork/RaisingAwareness/HumanImpactReport/tabid/180/Default.aspx

Climate Camp Cymru

Comments

Display the following 4 comments

  1. political stage — Davey
  2. Hi Davey — Ms Anne Thropy
  3. MP´s — Harold Hamlet
  4. The way I see it — Not Gullible