Skip to content or view screen version

2 – 8 Tachwedd 2015: Wythnos o Weithredu yn Erbyn Carchar Gogledd Cymru & y Cyml

Anhysbys | 12.10.2015 16:00

Dyma alwad am wythnos o weithredu i annog holl wledydd Prydain a’r byd i weithredu yn erbyn adeiladu Carchar Gogledd Cymru yn Wrecsam.



Am yr Wythnos o Weithredu

Dyma alwad am wythnos o weithredu i annog holl wledydd Prydain a’r byd i weithredu yn erbyn adeiladu Carchar Gogledd Cymru yn Wrecsam.

Hon bydd yr ail garchar fwyaf yn Ewrop, yn dal mwy na 2100 o fobol ac yn costio £250 miliwn i’w hadeiladu. Enillodd Lend Lease, contractiwr o Awstralia y cytundeb i adeiladu y carchar Titan yn Wrecsam gan y llywodraeth yn Mai 2014.

Mae pobl lleol wedi bod yn gwrthwynebu’r carchar ers dros hanner degawd; yn gwrthwynebu ceisiadau cynllunio, lobio a mynd i cyfarfodydd. Caodd caniadad cynllunio llawn ei roi yn mis Tachwedd 2014 er gwaethaf y gwrthwynebiad lleol. Ar hyn o bryd mae’n safle adeiladu a mae’r man yma o drais a gorthrwm wrthi’n cael ei hadeiladu yr eiliad hon.

Rydym am ei wrthwynebu, ei arafu a gyrru neges i’r wladwriaeth a’r diwydiant carchar nad yw yn dderbynnadwy i elwa o gaethiwo pobl. Mae’r Llywodraeth yn dymuno i adeiladu rhagor o garchardai yng Ngwledydd Prydain, dyma ein siawns i atal y diwydiant yma rhag ehangu. Rhaid i ni ymosod ar ehangu carchar a’r rheolaeth cymdeithasol ganddo dros ein bywydau. Rydym yn cwffio tan bo bob un ohonom yn rhydd.
Be sy’b digwydd?

Protestiadau yn y carchar a’i chyflenwyr. I ganfod busnesau lleol sydd yn elwa o garchar ewch yma:  http://www.cape-campaign.org/prison-profiteers

Protestiadau swn a cyd-sefyll ar draws gwledydd Prydain

Nosweithiau gwybodaeth, gweithdai a dangosiadau ffilm i gynnai rhagor o wrthynebu y cymleth diwydiant carchardai ygn ngwledydd Prydain.

Bydd yr ymgyrch CAPE hefyd yn cefnogi digwyddiandau sydd yn bodoli’n barod sydd yn digwydd yn ystod yr wythnos gan gynnwys:

Prosessiwn blynyddol United Families and Friends Campaign (UFFC) ar y 31ain o Hydref. Mae’r UFFC yn glymblaid cenedlaethol o deuluoedd a ffrindiau y sawl sydd wedi marw yng ngofal yr heddlu a swyddogion carchar yn ogystal a’r sawl sydd wedi eu lladd mewn canolfanau carchardai mewnfudo (immigration detention centres) a ysbytai seiciatrig diogel (secure psyciatric hospitals) yng nghwledydd Prydain. Cwrdd am 12 ganol dydd ar y 31ain o Hydref yn Sgwar Trafalgar am brosesiwn tawel ar hyd Whitehall a wedyn protest swnllyd tu allan Stryd Downing.

Protest Amgylchunu Canolfan Carchar Mewnfudo Yarl’s Wood ar ddydd Sadwrn y 7fed o Dachwedd:  https://www.facebook.com/events/755942137885113/

Sut i Ymunno a’r Gweithgarwch

Cysylltwch a Community Action on Prison Expansion –  info@cape-campaign.org

Bydd y mwyafrif o bobl yn gweithredu’n lleol, serch hynny rydym yn trefnu trafnidiaeth a llety i bobl aros yn y gogledd ddwyrain. Os gwelwch yn dda cysylltwch!

Cysylltwch a grwp sy’n lleol i chi –  http://www.cape-campaign.org/about/local-groups

Rhowch gwybod i ni am rhywbeth rydych chi yn ei drefnu a gallwn eich helpu i’w hyrwyddo.

Anhysbys